Sut wnaethoch chi deithio i’r gwaith yr hydref diwethaf? Oeddech chi’n un o’r 600 o bobl o brifysgolion o amgylch Cymru a gytunodd i hepgor y car fel rhan o’n prosiect Byw’n Dda, Gweithio’n Dda?
Trodd bump o brifysgolion at deithio cynaliadwy mewn ymdrech i ddod i frig y tabl ar gyfer y gyfradd gyfranogi uchaf yn ein her teithio prifysgol, gyda Phrifysgol Bangor yn fuddugol. Enillodd y brifysgol sesiwn gynnal a chadw Dr Bike a phecyn llawn o nwyddau teithio egnïol.
Manteisiodd llawer o bobl ar y cyfle hwn i feddwl am gerdded, beicio, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu rannu car i gyrraedd y brifysgol, gan gael llawer o fanteision iechyd ac ariannol ar hyd y daith.
Teithiwyd rhagor na 60,000 o filltiroedd drwy’r 9000 taith a gofnodwyd – sy’n gyfwerth â 2.5 gwaith o amgylch y byd!
Roedd hefyd ystod eang o wobrau i’w hennill dros gyfnod yr her, a dim ond drwy gofnodi o leiaf dwy daith yr wythnos roedd cyfle i gyfranogwyr ennill talebau siopa. Rhoddwyd cyfanswm o 20 set o dalebau fel hapwobrau.
Roedd y tywydd yn anwadal ond ni wnaeth hynny bylu brwdfrydedd y cyfranogwyr:
“Bore gwlyb heddiw, ond dim byd na all cot dda ac ymbarél ymdopi ag ef:) Oherwydd fy natur blentynnaidd neidiais mewn ambell bwll ar y ffordd.”
Dyma oedd gan gyfranogwr o’r tîm Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe i’w ddweud am yr her:
“Nid oes amheuaeth y daeth yr Her Teithio â ni yn nes fel tîm - o’r tynnu coes cystadleuol llawn hwyl ynglŷn â thaith pwy oedd yr hwyaf neu’r caletaf neu wlypaf neu fwyaf cynaliadwy, i’r cynghorion da a rannwyd gan feicwyr profiadol. Roedd yr Her Teithio yn addysgiadol, a nododd bob un ohonom anghenion hyfforddiant ac arfer da i’w cynnal yn y dyfodol. Byddem wrth ein bodd yn gwneud yr her eto.”