Quantcast
Channel: Sustrans - Commuting
Viewing all articles
Browse latest Browse all 166

Y daith ysgol: cerdded a beicio i’r ysgol

$
0
0
16 May 2016
plant yn beicio ar lwybr ar ddiwrnod disglair

Dim ond 1.5 milltir yw’r daith gyfartalog i’r ysgol gynradd ond, yn ystod cyfnod prysuraf y bore mae un o bob pum car sydd ar y ffordd yn danfon plant i’r ysgol.

Plant yn croesi'r ffordd i'r ysgol gyda chymorth wraig lolipop

Mae’r daith i’r ysgol yn gyfle delfrydol i blant ddysgu am eu hardal leol, datblygu rhwydweithiau cymdeithasol ehangach a magu annibyniaeth.

Dim ond 1.5 milltir yw’r daith gyfartalog i’r ysgol gynradd ond, yn ystod cyfnod prysuraf y bore mae un o bob pum car sydd ar y ffordd yn danfon plant i’r ysgol.

Mae annog plant i gerdded, beicio a sgwtera yn lleihau tagfeydd a llygredd o amgylch giatiau’r ysgol. Bydd hefyd yn helpu iechyd meddyliol a chorfforol eich plentyn. Mae athrawon yn dweud bod disgyblion sy’n cerdded a beicio yn cyrraedd yr ysgol wedi ymlacio ac yn fwy effro a pharod i ddechrau’r diwrnod na’r rhai sy’n teithio yn y car. 

Beicio i'r ysgol

Roedd bron i hanner y plant a arolygwyd gan Sustrans yn 2010 eisiau beicio i’r ysgol ond dim ond 4% oedd yn cael. Peryglon traffig yw prif bryder oedolion o ran plant yn cerdded a beicio i’r ysgol.

Mae beicio i’r ysgol yn helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau diogelwch ar y ffordd a dysgu sgiliau rheoli risg yn raddol. Wrth i blant fagu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gadw’n ddiogel, gallant fagu annibyniaeth, darganfod strategaethau a datrysiadau ar gyfer teithio o le i le ar eu pennau eu hunain.

Wrth gwrs, gall oedolyn fynd gyda phlant ifanc a helpu plant hŷn i arfer gyda’u llwybr nes eu bod yn barod i fentro’n annibynnol.

Offer a dillad

Yn aml, ystyrir bod cario llyfrau ac offer trwm yn rhwystr i feicio i’r ysgol. Ffitio cewyll (panniers) ar rac ar y beic yw’r ateb gorau, er bod bag cefn bach yn ddigonol fel arfer. Holwch os yw ysgol eich plentyn yn darparu loceri.

Dylai’ch plentyn fod mor weladwy â phosibl i ddefnyddwyr ffordd eraill a cherddwyr. Mae cadw safle hyderus ar y ffordd (dysgir hyn mewn hyfforddiant beicio), dillad llachar, goleuadau ac adlewyrchwyr yn ffyrdd gwych o fod yn weladwy. Mae golau blaen gwyn a golau cefn coch (parhaus neu’n fflachio) ac adlewyrchwyr yn ofynnol yn ôl y gyfraith wrth feicio liw nos.

Mae helmedi beicio wedi’u dylunio i ddiogelu’r pen pan fo codwm. Er nad ydynt yn orfodol, mae Sustrans yn argymell annog plant i’w gwisgo.

Cerdded i'r ysgol 

Mae cerdded i’r ysgol yn helpu plant i ymgysylltu gyda’u cymuned leol, datblygu rhwydweithiau cymdeithasol ehangach, gwella eu hymwybyddiaeth ofodol a gwella eu synnwyr o ddiogelwch ar y ffordd.

Erbyn 2050, amcangyfrifir y bydd 70% o enethod a 55% o fechgyn dros bwysau iach neu’n ordew, ond mae cerdded ychydig bob dydd yn hawdd, mae am ddim, ac mae’n dda i iechyd.

Mae gennym lawer o gyngor ar gerdded gyda phlant.

Cynghorion ar gyfer cael eich plentyn i gerdded neu feicio i’r ysgol

  • Cynlluniwch eich llwybr gyda’ch gilydd o flaen llaw, gan ddewis ffyrdd distawach a llwybrau beics ble bynnag y gallwch;
  • Rhowch gynnig ar y daith yn ystod y penwythnos pan mae’n debygol y bydd y ffyrdd yn ddistawach;
  • Ewch gyda’ch plentyn am ychydig ddyddiau. Wrth iddyn nhw fagu hyder, gallwch leihau’r pellter rydych chi’n cyd-deithio â nhw’n raddol;
  • Sicrhewch eu bod yn gwybod sut i ddelio gydag unrhyw gyffyrdd neu ffyrdd drwy ddilyn ein cynghorion diogelwch beicio;
  • Anogwch nhw i ddod o hyd i ffrind i feicio neu gerdded gyda nhw;
  • Os yw eich plentyn yn beicio, mae hyfforddiant beicio yn gallu bod yn ffordd ardderchog o’u helpu i ddatblygu sgiliau a magu eu hyder ar y ffordd.

Dysgwch am feicio’n ddiogel i blant

Location:


Viewing all articles
Browse latest Browse all 166

Trending Articles